Job 22:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Cymylau na wêl trwyddynt sy'n ei guddio,ac ar gylch y nefoedd y mae'n rhodio.’

15. A gedwi di at yr hen fforddy rhodiodd y drygionus ynddi?

16. Cipiwyd hwy ymaith cyn pryd,pan ysgubwyd ymaith eu sylfaen gan lif afon.

17. Dyma'r rhai a ddywedodd wrth Dduw, ‘Cilia oddi wrthym’.Beth a wnaeth yr Hollalluog iddynt hwy?

18. Er iddo lenwi eu tai â daioni,pell yw cyngor y drygionus oddi wrtho.

19. Gwêl y cyfiawn hyn, a llawenha;a gwatwerir hwy gan y dieuog.

Job 22