Job 22:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna atebodd Eliffas y Temaniad:

2. “A yw unrhyw un o werth i Dduw?Onid iddo'i hun y mae'r doeth o werth?

3. A oes boddhad i'r Hollalluog pan wyt yn gyfiawn,neu elw iddo pan wyt yn rhodio'n gywir?

4. Ai am dy dduwioldeb y mae'n dy geryddu,ac yn dy ddwyn i farn?

5. Onid yw dy ddrygioni'n fawr,a'th gamwedd yn ddiderfyn?

6. Cymeri wystl gan dy gymrodyr yn ddiachos,a dygi ymaith ddillad y tlawd.

7. Ni roddi ddŵr i'r lluddedig i'w yfed,a gwrthodi fara i'r newynog.

Job 22