Job 20:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Dychwel ffrwyth ei lafur heb iddo elwa arno;er cymaint ei enillion, ni chaiff eu mwynhau.

19. Oherwydd gorthrymodd y tlawd a'i adael yn ddiymgeledd;cipiodd dŷ nas adeiladodd.

20. Ni ŵyr sut i dawelu ei chwant,ac ni ddianc dim rhag ei wanc.

21. Nid oes gweddill iddo'i fwyta,ac felly nid oes parhad i'w ffyniant.

22. Wedi digoni ei chwant, â'n gyfyng arno;daw holl rym gofid arno.

23. Pan fydd ar fedr llenwi ei fol,gyrrir arno angerdd llid,a'i dywallt i lawr i'w berfedd.

Job 20