Job 20:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. “Er i ddrygioni droi'n felys yn ei enau,a'i fod yntau am ei gadw dan ei dafod,

13. ac yn anfodlon ei ollwng,ond yn ei ddal dan daflod ei enau,

14. eto y mae ei fwyd yn ei gyllayn troi'n wenwyn asb iddo.

15. Llynca gyfoeth, ac yna'i chwydu;bydd Duw'n ei dynnu allan o'i fol.

Job 20