Job 19:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Gwadwyd fi gan fy nghymdogion a'm cydnabod,ac anwybyddwyd fi gan fy ngweision.

15. Fel dieithryn y meddylia fy morynion amdanaf;estron wyf yn eu golwg.

16. Galwaf ar fy ngwas, ond nid yw'n fy ateb,er i mi erfyn yn daer arno.

17. Aeth fy anadl yn atgas i'm gwraig,ac yn ddrewdod i'm plant fy hun.

18. Dirmygir fi hyd yn oed gan blantos;pan godaf ar fy nhraed, y maent yn troi cefn arnaf.

Job 19