Job 18:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Fe'i gyrrir ef i'r rhwyd gan ei draed ei hun;y mae'n sangu ar y rhwydwaith.

9. Cydia'r trap yn ei sawdl,ac fe'i delir yn y groglath.

10. Cuddiwyd cortyn iddo ar y ddaear,ac y mae magl ar ei lwybr.

11. Y mae ofnau o bob tu yn ei ddychryn,ac yn ymlid ar ei ôl.

12. Pan ddaw pall ar ei gryfder,yna y mae dinistr yn barod am ei gwymp.

13. Ysir ei groen gan glefyd,a llyncir ei aelodau gan Gyntafanedig Angau;

Job 18