Job 18:5-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. “Fe ddiffydd goleuni'r drygionus,ac ni chynnau fflam ei dân.

6. Fe dywylla'r goleuni yn ei babell,a diffydd ei lamp uwch ei ben.

7. Byrhau a wna'i gamau cryfion,a'i gyngor ei hun a wna iddo syrthio.

8. Fe'i gyrrir ef i'r rhwyd gan ei draed ei hun;y mae'n sangu ar y rhwydwaith.

9. Cydia'r trap yn ei sawdl,ac fe'i delir yn y groglath.

10. Cuddiwyd cortyn iddo ar y ddaear,ac y mae magl ar ei lwybr.

11. Y mae ofnau o bob tu yn ei ddychryn,ac yn ymlid ar ei ôl.

12. Pan ddaw pall ar ei gryfder,yna y mae dinistr yn barod am ei gwymp.

13. Ysir ei groen gan glefyd,a llyncir ei aelodau gan Gyntafanedig Angau;

14. yna cipir ef o'r babell yr ymddiriedai ef ynddi,a'i ddwyn at Frenin Braw.

15. Bydd estron yn trigo yn ei babell,a gwasgerir brwmstan ar ei annedd.

Job 18