Job 18:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Un yn ei rwygo'i hun yn ei lid!A wneir y ddaear yn ddiffaith er dy fwyn di?A symudir y graig o'i lle?

5. “Fe ddiffydd goleuni'r drygionus,ac ni chynnau fflam ei dân.

6. Fe dywylla'r goleuni yn ei babell,a diffydd ei lamp uwch ei ben.

7. Byrhau a wna'i gamau cryfion,a'i gyngor ei hun a wna iddo syrthio.

8. Fe'i gyrrir ef i'r rhwyd gan ei draed ei hun;y mae'n sangu ar y rhwydwaith.

9. Cydia'r trap yn ei sawdl,ac fe'i delir yn y groglath.

Job 18