1. Atebodd Job:
2. “Yr wyf wedi clywed llawer o bethau fel hyn;cysurwyr sy'n peri blinder ydych chwi i gyd.
3. A oes terfyn i eiriau gwyntog?Neu beth sy'n dy gythruddo i ddadlau?
4. Gallwn innau siarad fel chwithau,pe baech chwi yn fy safle i;gallwn blethu geiriau yn eich erbyn,ac ysgwyd fy mhen arnoch.
5. Gallwn eich calonogi â'm genau,a'ch esmwytháu â geiriau fy ngwefusau.
6. “Os llefaraf, ni phaid fy mhoen,ac os tawaf, ni chilia oddi wrthyf.
7. Ond yn awr gosodwyd blinder arnaf;anrheithiaist fy holl gydnabod.
8. Crychaist fy nghroen, a thystia hyn yn f'erbyn;saif fy nheneuwch i'm cyhuddo.
9. Yn ei gynddaredd rhwygodd fi mewn casineb,ac ysgyrnygu ei ddannedd arnaf;llygadrytha fy ngelynion arnaf.
10. Cegant yn wawdlyd arnaf,trawant fy ngrudd mewn dirmyg,unant yn dyrfa yn f'erbyn.
11. Rhydd Duw fi yng ngafael yr annuwiol,a'm taflu i ddwylo'r anwir.
12. Yr oeddwn mewn esmwythyd, ond drylliodd fi;cydiodd yn fy ngwar a'm llarpio;gosododd fi yn nod iddo anelu ato.
13. Yr oedd ei saethwyr o'm hamgylch;trywanodd i'm harennau'n ddidrugaredd,a thywalltwyd fy mustl ar y llawr.
14. Gwnaeth rwyg ar ôl rhwyg ynof;rhuthrodd arnaf fel ymladdwr.
15. “Gwnïais sachliain am fy nghroen,a chuddiais fy nghorun yn y llwch.
16. Cochodd fy wyneb gan ddagrau,daeth düwch ar fy amrannau,
17. er nad oes trais ar fy nwylo,ac er bod fy ngweddi'n ddilys.
18. “O ddaear, na chuddia fy ngwaed,ac na fydded gorffwys i'm cri.