Job 15:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. A wyt ti'n gwrando ar gyfrinach Duw,ac yn cyfyngu doethineb i ti dy hun?

9. Beth a wyddost ti na wyddom ni?Pa grebwyll sydd gennyt nad yw gennym ninnau?

10. Y mae yn ein mysg rai penwyn a rhai oedrannus,rhai sy'n hŷn na'th dad.

11. Ai dibris yn d'olwg yw diddanwch Duw,a'r gair a ddaw'n ddistaw atat?

12. Beth a ddaeth dros dy feddwl?Pam y mae dy lygaid yn fflachio

13. fel yr wyt yn gosod dy ysbryd yn erbyn Duw,ac yn arllwys y geiriau hyn?

Job 15