Job 15:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Sŵn dychryniadau sydd yn ei glustiau,a daw'r dinistriwr arno yn awr ei lwyddiant.

22. Nid oes iddo obaith dychwelyd o'r tywyllwch;y mae wedi ei dynghedu i'r cleddyf.

23. Crwydryn yw, ac ysglyfaeth i'r fwltur;gŵyr mai diwrnod tywyll sydd wedi ei bennu iddo.

24. Brawychir ef gan ofid a chyfyngder;llethir ef fel brenin parod i ymosod.

Job 15