Job 15:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna atebodd Eliffas y Temaniad:

2. “Ai ateb â gwybodaeth nad yw'n ddim ond gwynt a wna'r doeth,a llenwi ei fol â'r dwyreinwynt?

3. A ddadleua ef â gair di-fudd,ac â geiriau di-les?

4. Ond yr wyt ti'n diddymu duwioldeb,ac yn rhwystro defosiwn gerbron Duw.

Job 15