Job 14:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Derfydd y dŵr o'r llyn;disbyddir a sychir yr afon;

12. felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd,ni ddeffry tra pery'r nefoedd,ac nis cynhyrfir o'i gwsg.

13. O na bait yn fy nghuddio yn Sheol,ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio,a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof!

14. (Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?)Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur,hyd nes i'm rhyddhad ddod.

Job 14