Job 11:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di?Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti?

9. Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear,ac yn ehangach na'r môr.

10. “Os daw ef heibio, i garcharu neu i alw llys barn,pwy a'i rhwystra?

11. Oherwydd y mae ef yn adnabod pobl dwyllodrus,a phan wêl ddrygioni, onid yw'n sylwi arno?

Job 11