Jeremeia 9:25-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. “Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD, “pan gosbaf bob cenedl enwaededig,

26. sef yr Aifft, Jwda ac Edom, plant Ammon a Moab, a phawb o drigolion yr anialwch sydd â'u talcennau'n foel. Oherwydd y mae'r holl genhedloedd yn ddienwaededig, a holl dŷ Israel heb enwaedu arnynt yn eu calon.”

Jeremeia 9