Jeremeia 9:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Dywedodd yr ARGLWYDD, “Am iddynt wrthod fy nghyfraith a roddais o'u blaen hwy, heb ei dilyn a heb wrando ar fy llais,

14. ond rhodio yn ôl ystyfnigrwydd eu calon, a dilyn Baalim, fel y dysgodd eu hynafiaid iddynt,

15. am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Wele, bwydaf y bobl hyn â wermod, a'u diodi â dŵr gwenwynig.

16. Gwasgaraf hwy ymysg cenhedloedd nad ydynt hwy na'u hynafiaid wedi eu hadnabod, ac anfonaf gleddyf ar eu hôl nes gorffen eu difetha.”

Jeremeia 9