Jeremeia 52:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Drylliodd llu y Caldeaid, a oedd gyda phennaeth y gosgorddlu, yr holl furiau oedd yn amgylchu Jerwsalem.

15. Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, weddill y bobl dlawd a adawyd ar ôl yn y ddinas, a hefyd y rhai a giliodd at frenin Babilon, ynghyd â gweddill y crefftwyr.

16. Ond gadawodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac amaethwyr.

Jeremeia 52