Jeremeia 50:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

33. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Gorthrymwyd pobl Israel, a phobl Jwda gyda hwy; daliwyd hwy'n dynn gan bawb a'u caethiwodd, a gwrthod eu gollwng.

34. Ond y mae eu Gwaredwr yn gryf; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw. Bydd ef yn dadlau eu hachos yn gadarn, ac yn dwyn llonydd i'w wlad, ond aflonyddwch i breswylwyr Babilon.

35. “Cleddyf ar y Caldeaid,” medd yr ARGLWYDD,“ar breswylwyr Babilon,ar ei swyddogion a'i gwŷr doeth!

36. Cleddyf ar ei dewiniaid,iddynt fynd yn ynfydion!Cleddyf ar ei gwŷr cedyrn,iddynt gael eu difetha!

Jeremeia 50