29. “Galwch y saethwyr yn erbyn Babilon,pob un sy'n tynnu bwa;gwersyllwch yn ei herbyn o amgylch,rhag i neb ddianc ohoni.Talwch iddi yn ôl ei gweithred,ac yn ôl y cwbl a wnaeth gwnewch iddi hithau;canys bu'n drahaus yn erbyn yr ARGLWYDD, yn erbyn Sanct Israel.
30. Am hynny fe syrth ei gwŷr ifainc yn ei heolydd,a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD.
31. “Dyma fi yn dy erbyn di, yr un balch,”medd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd,“canys daeth dy ddydd, a'r awr i mi dy gosbi.
32. Tramgwydda'r balch a syrth heb neb i'w godi;cyneuaf yn ei ddinasoedd dân fydd yn difa'i holl amgylchedd.”
33. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Gorthrymwyd pobl Israel, a phobl Jwda gyda hwy; daliwyd hwy'n dynn gan bawb a'u caethiwodd, a gwrthod eu gollwng.
34. Ond y mae eu Gwaredwr yn gryf; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw. Bydd ef yn dadlau eu hachos yn gadarn, ac yn dwyn llonydd i'w wlad, ond aflonyddwch i breswylwyr Babilon.