17. “Praidd ar wasgar yw Israel,a'r llewod yn eu hymlid.Brenin Asyria a'u hysodd gyntaf, yna Nebuchadnesar brenin Babilon yn olaf oll a gnodd eu hesgyrn.
18. Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Yr wyf am gosbi brenin Babilon, a'i wlad, fel y cosbais frenin Asyria.
19. Ac adferaf Israel i'w borfa, ac fe bora ar Garmel ac yn Basan; digonir ei chwant ar fynydd-dir Effraim a Gilead.
20. Yn y dyddiau hynny a'r amser hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yn ofer y ceisir drygioni Israel, ac ni cheir pechod Jwda; oherwydd maddeuaf i'r rhai a adawaf yn weddill.’