Jeremeia 5:20-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. “Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, cyhoeddwch hyn yn Jwda a dweud,

21. ‘Clywch hyn yn awr, bobl ynfyd, ddiddeall:y mae ganddynt lygaid, ond ni welant; clustiau, ond ni chlywant.

22. Onid oes arnoch fy ofn i?’ medd yr ARGLWYDD. ‘Oni chrynwch o'm blaen?Mi osodais y tywod yn derfyn i'r môr,yn derfyn sicr na all ei groesi;pan ymgasgla'r tonnau ni thyciant,pan rua'r dyfroedd nid ânt drosto.

23. Ond calon wrthnysig a gwrthryfelgar sydd gan y bobl hyn;y maent yn parhau i wrthgilio.

24. Ac ni ddywedant yn eu calon, “Bydded inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw,sy'n rhoi'r glaw, a chawodydd y gwanwyn a'r hydref yn eu pryd,a sicrhau i ni wythnosau penodedig y cynhaeaf.”

25. Ond y mae eich camweddau wedi rhwystro hyn,a'ch pechodau wedi atal daioni rhagoch.

26. Oherwydd cafwyd rhai drwg ymhlith fy mhobl;y maent yn gwylio fel un yn gosod magl,ac yn gosod offer dinistr i ddal pobl.

27. Fel y mae cawell yn llawn o adar,felly y mae eu tai yn llawn o dwyll.

Jeremeia 5