Jeremeia 48:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Clyw waedd o Horonaim,‘Anrhaith a dinistr mawr!’

4. Dinistriwyd Moab;clywir ei gwaedd hyd yn Soar.

5. Canys dringant riw Luhithdan wylo'n chwerw;ac ar lechwedd Horonaimclywir cri ddolefus dinistr.

6. Ffowch, dihangwch am eich einioes,fel y gwna'r asyn gwyllt yn yr anialwch.

7. “Am i ti ymddiried yn dy weithredoedda'th drysorau dy hun,cei dithau hefyd dy ddal;â Cemos i ffwrdd i gaethglud,ynghyd â'i offeiriaid a'i benaethiaid.

Jeremeia 48