Jeremeia 48:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. “Gwnewch hi'n feddw,canys ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD;ymdrybaedded Moab yn ei chwydfa,a bydded felly'n gyff gwawd.

27. Oni bu Israel yn gyff gwawd i ti,er nad oedd ymysg lladron,fel yr ysgydwit dy ben wrth sôn amdani?

28. “Cefnwch ar y dinasoedd, a thrigwch yn y creigiau,chwi breswylwyr Moab;byddwch fel colomen yn nythuyn ystlysau'r graig uwch yr hafn.

29. Clywsom am falchder Moab,ac un falch iawn yw hi—balch, hy, ffroenuchel ac uchelgeisiol.

Jeremeia 48