Jeremeia 46:9-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Ymlaen, chwi feirch;rhuthrwch, chwi gerbydau rhyfel.Allan, chwi wŷr cedyrn—Ethiopiaid a gwŷr Put, sy'n dwyn tarian;gwŷr o Lydia, sy'n arfer tynnu bwa.

10. Hwn yw dydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd,dydd dialedd i ddial ar ei elynion.Ysa'r cleddyf nes syrffedu;meddwa ar eu gwaed.Canys bydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd yn cynnal aberthyng ngwlad y gogledd, wrth afon Ewffrates.

11. Dos i fyny i Gilead, a chymer falm,O wyryf, ferch yr Aifft;yn ofer y cymeraist gyffuriau lawer,canys ni fydd gwellhad i ti.

12. Fe glyw'r cenhedloedd am dy waradwydd,ac y mae dy waedd yn llenwi'r ddaear;cadarn yn syrthio yn erbyn cadarn,a'r ddau'n cwympo gyda'i gilydd.”

13. Dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth y proffwyd Jeremeia pan oedd Nebuchadnesar brenin Babilon ar ddod i daro gwlad yr Aifft:

14. “Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch yn Migdol,hysbyswch yn Noff ac yn Tahpanhes;dywedwch, ‘Saf, a bydd barod,canys y mae cleddyf yn ysu o'th amgylch.’

15. Pam yr ysgubwyd Apis ymaith,a pham na ddaliodd dy darw ei dir?Yr ARGLWYDD a'i bwriodd i lawr.

16. Parodd i luoedd faglu a syrthioy naill yn erbyn y llall.Dywedasant, ‘Cyfodwch,dychwelwn at ein pobl,i wlad ein genedigaeth,rhag cleddyf y gorthrymwr.’

17. Rhowch yn enw ar Pharo brenin yr Aifft,‘Y Broliwr a gollodd ei gyfle’.

18. Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd y Brenin— ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw—“fe ddaw, fel Tabor ymhlith y mynyddoedd,a Charmel uwchlaw'r môr.

19. Casgla iti becyn ar gyfer caethglud,ti, drigiannydd yr Aifft;canys bydd Noff yn anghyfannedd;fe'i difethir, a bydd heb breswylydd.

20. “Heffer gyda'r brydferthaf yw'r Aifft,ond daeth cleren o'r gogledd arni.

21. Yr oedd ei milwyr cyflog yn ei chanolfel lloi pasgedig;a throesant hwythau hefyd ymaith,a ffoi ynghyd, heb oedi;canys daeth dydd eu gofid arnynt,ac awr eu cosbi.

22. Y mae ei sŵn fel sarff yn hisian,canys daeth y gelyn yn llu,daeth yn ei herbyn â bwyeill;fel rhai yn cymynu coed,

23. torrant i lawr ei choedydd,” medd yr ARGLWYDD.“Canys ni ellir eu rhifo;y maent yn amlach eu rhif na locustiaid,heb rifedi arnynt.

24. Cywilyddir merch yr Aifft,a'i rhoi yng ngafael pobl y gogledd.”

Jeremeia 46