Jeremeia 46:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Cenglwch y ceffylau,marchogwch y meirch,safwch yn barod, pawb â'i helm,gloywch eich gwaywffyn,gwisgwch eich llurigau.

5. Beth a welaf? Y maent mewn braw,ciliant yn ôl, lloriwyd eu cedyrn;ffoesant ar ffrwst, heb edrych yn ôl;dychryn ar bob llaw!” medd yr ARGLWYDD.

6. “Ni all y buan ffoi,na'r cadarn ddianc;tua'r gogledd ar lan yr Ewffratesy baglant ac y syrthiant.

Jeremeia 46