Jeremeia 41:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Yna daliodd Ismael holl weddill y bobl oedd yn Mispa, sef merched y brenin a'r holl bobl oedd wedi eu gadael yn Mispa pan osododd Nebusaradan, pennaeth y gwylwyr, Gedaleia fab Ahicam yn arolygydd drostynt. Daliodd Ismael fab Nethaneia hwy, a chychwynnodd fynd drosodd at yr Ammoniaid.

11. Pan glywodd Johanan fab Carea, a holl swyddogion y lluoedd arfog oedd gydag ef, am yr holl ddrwg yr oedd Ismael fab Nethaneia wedi ei wneud,

12. cymerasant gyda hwy eu holl wŷr i ymladd yn erbyn Ismael fab Nethaneia, a daethant o hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon.

13. Llawenychodd yr holl bobl oedd gydag Ismael pan welsant Johanan fab Carea a holl swyddogion ei luoedd,

14. a dyna'r holl bobl yr oedd Ismael wedi eu dwyn yn gaeth o Mispa yn troi ac yn mynd drosodd at Johanan fab Carea.

15. Ond dihangodd Ismael fab Nethaneia, ac wyth o ddynion gydag ef, oddi wrth Johanan, a mynd drosodd at yr Ammoniaid.

16. Yna cymerodd Johanan fab Carea a swyddogion ei luoedd bawb oedd ar ôl o'r bobl yr oedd Ismael fab Nethaneia wedi eu dwyn o Mispa, ar ôl iddo ladd Gedaleia fab Ahicam. Dygodd ef yn ôl o Gibeon ddynion a gwŷr rhyfel, gwragedd a phlant ac eunuchiaid.

17. Aethant oddi yno ac aros yn llety Chimham, yn ymyl Bethlehem, ar eu ffordd wrth ffoi i'r Aifft

18. rhag y Caldeaid; oblegid yr oeddent yn eu hofni hwy am fod Ismael fab Nethaneia wedi lladd Gedaleia fab Ahicam, y gŵr a osododd brenin Babilon yn arolygydd dros y wlad.

Jeremeia 41