Jeremeia 41:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn y seithfed mis daeth Ismael fab Nethaneia, fab Elisama, o deulu'r brenin, a chydag ef bendefigion y brenin, deg ohonynt, i Mispa at Gedaleia fab Ahicam; a thra oeddent yn bwyta pryd gyda'i gilydd yn Mispa,

2. cododd Ismael fab Nethaneia a'r dengwr, a tharo Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, รข'r cleddyf, a lladd yr un oedd wedi ei osod gan frenin Babilon yn arolygydd dros y wlad.

3. Hefyd lladdodd Ismael yr holl Iddewon oedd gyda Gedaleia yn Mispa, a milwyr y Caldeaid a oedd yn digwydd bod yno.

Jeremeia 41