Jeremeia 4:20-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Daw dinistr ar ddinistr, anrheithir yr holl dir.Yn ddisymwth anrheithir fy mhebyll, a'm llenni mewn eiliad.

21. Pa hyd yr edrychaf ar faner,ac y gwrandawaf ar sain utgorn?

22. Y mae fy mhobl yn ynfyd, nid ydynt yn fy adnabod i;plant angall ydynt, nid rhai deallus mohonynt.Y maent yn fedrus i wneud drygioni, ond ni wyddant sut i wneud daioni.

23. Edrychais tua'r ddaear—afluniaidd a gwag ydoedd;tua'r nefoedd—ond nid oedd yno oleuni.

24. Edrychais tua'r mynyddoedd,ac wele hwy'n crynu,a'r holl fryniau yn gwegian.

25. Edrychais, ac wele, nid oedd neb oll;ac yr oedd holl adar y nefoedd wedi cilio.

26. Edrychais, ac wele'r dolydd yn ddiffeithwch,a'r holl ddinasoedd yn ddinistr,o achos yr ARGLWYDD, o achos angerdd ei lid.

27. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Bydd yr holl wlad yn anrhaith,ond ni wnaf ddiwedd arni.

28. Am hyn fe alara'r ddaear, ac fe dywylla'r nefoedd fry,oherwydd imi fynegi fy mwriad;ac ni fydd yn edifar gennyf, ac ni throf yn ôl oddi wrtho.”

Jeremeia 4