Jeremeia 36:23-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Pan fyddai Jehudi wedi darllen tair neu bedair colofn, torrai'r brenin hwy â chyllell yr ysgrifennydd, a'u taflu i'w llosgi yn y rhwyll dân, nes difa'r sgrôl gyfan yn y tân.

24. Ond nid oedd y brenin na'i weision yn arswydo nac yn rhwygo'u dillad, wrth wrando ar yr holl eiriau hyn.

25. Pan ymbiliodd Elnathan a Delaia a Gemareia ar y brenin i beidio â llosgi'r sgrôl, ni wrandawai arnynt.

Jeremeia 36