Jeremeia 35:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Yr ydym yn byw mewn pebyll, ac yn gwneud popeth fel y gorchmynnodd Jonadab ein tad inni.

11. Ond pan gododd Nebuchadnesar brenin Babilon yn erbyn y wlad, dywedasom, ‘Dewch, awn i Jerwsalem i osgoi llu'r Caldeaid a llu Syria’; a dyna pam yr ydym yn byw yn Jerwsalem.”

12. Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,

13. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Dos a llefara wrth bobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem. Oni chymerwch eich disgyblu i wrando fy ngeiriau?’ medd yr ARGLWYDD.

Jeremeia 35