Jeremeia 33:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. ‘Galw arnaf, ac atebaf di; mynegaf i ti bethau mawr a dirgel na wyddost amdanynt.’

4. Oblegid fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am dai'r ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y tai a dynnir i lawr oherwydd y cloddiau gwarchae, ac oherwydd y cleddyf:

5. ‘Daw'r Caldeaid i ymladd, a'u llenwi â chelanedd y dynion a drawaf yn fy llid a'm digofaint; cuddiais fy wyneb oddi wrth y ddinas hon oherwydd eu holl ddrygioni.

6. Dygaf iddi yn awr wellhad a meddyginiaeth; iachâf hwy, a dangos iddynt dymor o heddwch a diogelwch.

7. Adferaf lwyddiant Jwda a llwyddiant Israel; adeiladaf hwy fel yn y dechreuad.

8. Glanhaf hwy o'r holl ddrygioni a wnaethant yn f'erbyn, a maddeuaf yr holl gamweddau a wnaethant yn f'erbyn.

9. Bydd y ddinas imi'n enw llawen, yn glod a gogoniant i holl genhedloedd y ddaear pan glywant am yr holl ddaioni a wnaf iddi; ac ofnant a chrynant oherwydd yr holl ddaioni a'r holl heddwch a wnaf iddi.’

Jeremeia 33