Jeremeia 28:16-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
16. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr wyf yn dy yrru di oddi ar wyneb y ddaear; o fewn blwyddyn byddi farw, oherwydd dysgaist wrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.’ ”
17. Bu farw Hananeia y proffwyd y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.