Jeremeia 20:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oedd Pasur fab Immer, yr offeiriad, yn brif swyddog yn nhŷ'r ARGLWYDD, a phan glywodd fod Jeremeia yn proffwydo'r geiriau hyn,

2. trawodd Pasur y proffwyd Jeremeia, a'i roi yn y cyffion ym mhorth uchaf Benjamin yn nhŷ'r ARGLWYDD.

3. Trannoeth, pan ollyngodd Pasur ef o'r cyffion, dywedodd Jeremeia wrtho, “Nid Pasur y galwodd yr ARGLWYDD di ond Dychryn-ar-bob-llaw.

Jeremeia 20