4. Gwnaf hwy yn arswyd i holl deyrnasoedd y byd, oherwydd yr hyn a wnaeth Manasse fab Heseceia, brenin Jwda, yn Jerwsalem.”
5. “Pwy a drugarha wrthyt, O Jerwsalem?Pwy a gydymdeimla â thi?Pwy a ddaw heibio i ymofyn amdanat?
6. Gadewaist fi, medd yr ARGLWYDD,a throi dy gefn arnaf;ac estynnaf finnau fy llaw yn dy erbyn i'th ddifa;rwy'n blino ar drugarhau.
7. Gwyntyllaf hwy â gwyntyll ym mhyrth y wlad;di-blantaf, difethaf fy mhobl,am na ddychwelant o'u ffyrdd.
8. Gwnaf eu gweddwon yn amlach na thywod y môr;dygaf anrheithiwr ganol dydd yn erbyn mam y gŵr ifanc,paraf i ddychryn a braw ddod arni yn ddisymwth.
9. Llesgâ'r un a esgorodd ar saith o feibion;syrth mewn llesmair,machluda ei haul, a hi eto'n ddydd;fe'i dygir i gywilydd a gwaradwydd.Rhoddaf i'r cleddyf y rhai sy'n weddill,yng ngŵydd eu gelynion, medd yr ARGLWYDD.”