18. Os af i'r maes, yno y mae'r cyrff a laddwyd â'r cleddyf.Os af i'r ddinas, yno y mae'r rhai a nychwyd gan y newyn.Y mae'r proffwyd hefyd a'r offeiriad yn crwydro'r wlad,a heb ddeall.’ ”
19. A wrthodaist ti Jwda yn llwyr? A ffieiddiaist ti Seion?Pam y trewaist ni heb fod inni iachâd?Disgwyl yr oeddem am heddwch, ond ni ddaeth daioni;am amser iachâd, ond dychryn a ddaeth.
20. Cydnabyddwn, ARGLWYDD, ein drygioni,a chamwedd ein hynafiaid;yn wir, yr ydym wedi pechu yn dy erbyn.
21. Ond oherwydd dy enw, paid â'n ffieiddio ni,na dirmygu dy orsedd ogoneddus;cofia dy gyfamod â ni, paid â'i dorri.
22. A oes neb ymhlith gau dduwiau'r cenhedloedd a rydd lawogydd?A rydd y nefoedd ei hun gawodydd?Na, ond ti, yr ARGLWYDD ein Duw,ynot ti yr hyderwn, ti yn unig a wnei'r pethau hyn oll.