Jeremeia 13:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf eilwaith, a dweud,

4. “Cymer y gwregys a brynaist, ac sydd am dy lwynau, a dos i ymyl afon Ewffrates a'i guddio yno mewn hollt yn y graig.”

5. Felly euthum a'i guddio wrth ymyl afon Ewffrates, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i mi.

6. Ar ôl dyddiau lawer dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Dos i ymyl afon Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys y gorchmynnais iti ei guddio yno.”

Jeremeia 13