Jeremeia 13:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. A newidia'r Ethiopiad ei groen,neu'r llewpard ei frychni?A allwch chwithau wneud daioni,chwi a fagwyd mewn drygioni?

24. “Fe'u chwalaf hwy fel usa chwythir gan wynt y diffeithwch.

25. Hyn fydd dy ran, yr hyn a fesurais i ti,” medd yr ARGLWYDD,“am i ti fy anghofio, ac ymddiried mewn celwydd.

26. Mi godaf odre dy wisg dros dy wyneb,ac amlygir dy warth.

27. Gwelais dy anlladrwydd, dy odineb, dy weryriad nwydus,a budreddi dy buteindra ar fryn a maes.Gwae di, Jerwsalem! Ni fyddi'n lân!Pa hyd, eto, y pery hyn?”

Jeremeia 13