Ioan 8:55-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

55. Nid ydych yn ei adnabod, ond yr wyf fi'n ei adnabod. Pe bawn yn dweud nad wyf yn ei adnabod, byddwn yn gelwyddog fel chwithau. Ond yr wyf yn ei adnabod, ac yr wyf yn cadw ei air ef.

56. Gorfoleddu a wnaeth eich tad Abraham o weld fy nydd i; fe'i gwelodd, a llawenhau.”

57. Yna meddai'r Iddewon wrtho, “Nid wyt ti'n hanner cant oed eto. A wyt ti wedi gweld Abraham?”

Ioan 8