Ioan 8:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Meddai'r Phariseaid wrtho, “Tystiolaethu amdanat dy hun yr wyt ti; nid yw dy dystiolaeth yn wir.”

14. Atebodd Iesu hwy, “Er mai myfi sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth yn wir am fy mod yn gwybod o ble y deuthum ac i ble'r wyf yn mynd. Ond ni wyddoch chwi o ble'r wyf yn dod nac i ble'r wyf yn mynd.

15. Yr ydych chwi'n barnu yn ôl safonau dynol. Minnau, nid wyf yn barnu neb,

16. ac os byddaf yn barnu y mae'r farn a roddaf yn ddilys, oherwydd nid myfi yn unig sy'n barnu, ond myfi a'r Tad a'm hanfonodd i.

17. Y mae'n ysgrifenedig yn eich Cyfraith chwi fod tystiolaeth dau ddyn yn wir.

Ioan 8