Ioan 6:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. “Y mae bachgen yma a phum torth haidd a dau bysgodyn ganddo, ond beth yw hynny rhwng cynifer?”

10. Dywedodd Iesu, “Gwnewch i'r bobl eistedd i lawr.” Yr oedd llawer o laswellt yn y lle, ac eisteddodd y dynion i lawr, rhyw bum mil ohonynt.

11. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac wedi diolch fe'u rhannodd i'r rhai oedd yn eistedd. Gwnaeth yr un peth hefyd â'r pysgod, gan roi i bob un faint a fynnai.

Ioan 6