Ioan 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar ôl hyn aeth Iesu ymaith ar draws Môr Galilea (hynny yw, Môr Tiberias).

2. Ac yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn, oherwydd yr oeddent wedi gweld yr arwyddion yr oedd wedi eu gwneud ar y cleifion.

3. Aeth Iesu i fyny'r mynydd ac eistedd yno gyda'i ddisgyblion.

4. Yr oedd y Pasg, gŵyl yr Iddewon, yn ymyl.

Ioan 6