Ioan 5:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar ôl hyn aeth Iesu i fyny i Jerwsalem i ddathlu un o wyliau'r Iddewon.

2. Y mae yn Jerwsalem, wrth Borth y Defaid, bwll a elwir Bethesda yn iaith yr Iddewon, a phum cyntedd colofnog yn arwain iddo.

3. Yn y cynteddau hyn byddai tyrfa o gleifion yn gorwedd, yn ddeillion a chloffion a phobl wedi eu parlysu.

5. Yn eu plith yr oedd dyn a fu'n wael ers deunaw mlynedd ar hugain.

Ioan 5