Ioan 14:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Beth bynnag a ofynnwch yn fy enw i, fe'i gwnaf, er mwyn i'r Tad gael ei ogoneddu yn y Mab.

14. Os gofynnwch unrhyw beth i mi yn fy enw i, fe'i gwnaf.

15. “Os ydych yn fy ngharu i, fe gadwch fy ngorchmynion i.

16. Ac fe ofynnaf finnau i'm Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth,

17. Ysbryd y Gwirionedd. Ni all y byd ei dderbyn ef, am nad yw'r byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef; yr ydych chwi yn ei adnabod, oherwydd gyda chwi y mae'n aros ac ynoch chwi y bydd.

Ioan 14