Ioan 14:10-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Onid wyt yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof fi? Y geiriau yr wyf fi'n eu dweud wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; y Tad sy'n aros ynof fi sydd yn gwneud ei weithredoedd ei hun.

11. Credwch fi pan ddywedaf fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof fi; neu ynteu credwch ar sail y gweithredoedd eu hunain.

12. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi hefyd yn gwneud y gweithredoedd yr wyf fi'n eu gwneud; yn wir, bydd yn gwneud rhai mwy na'r rheini, oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad.

13. Beth bynnag a ofynnwch yn fy enw i, fe'i gwnaf, er mwyn i'r Tad gael ei ogoneddu yn y Mab.

14. Os gofynnwch unrhyw beth i mi yn fy enw i, fe'i gwnaf.

15. “Os ydych yn fy ngharu i, fe gadwch fy ngorchmynion i.

16. Ac fe ofynnaf finnau i'm Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth,

17. Ysbryd y Gwirionedd. Ni all y byd ei dderbyn ef, am nad yw'r byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef; yr ydych chwi yn ei adnabod, oherwydd gyda chwi y mae'n aros ac ynoch chwi y bydd.

18. Ni adawaf chwi'n amddifad; fe ddof yn ôl atoch chwi.

19. Ymhen ychydig amser, ni bydd y byd yn fy ngweld i ddim mwy, ond byddwch chwi'n fy ngweld, fy mod yn fyw; a byw fyddwch chwithau hefyd.

20. Yn y dydd hwnnw byddwch chwi'n gwybod fy mod i yn fy Nhad, a'ch bod chwi ynof fi, a minnau ynoch chwithau.

21. Pwy bynnag y mae fy ngorchmynion i ganddo, ac sy'n eu cadw hwy, yw'r un sy'n fy ngharu i. A'r un sy'n fy ngharu i, fe'i cerir gan fy Nhad, a byddaf finnau yn ei garu, ac yn f'amlygu fy hun iddo.”

22. Meddai Jwdas wrtho (nid Jwdas Iscariot), “Arglwydd, beth sydd wedi digwydd i beri dy fod yn mynd i'th amlygu dy hun i ni, ac nid i'r byd?”

23. Atebodd Iesu ef: “Os yw rhywun yn fy ngharu, bydd yn cadw fy ngair i, a bydd fy Nhad yn ei garu, ac fe ddown ato a gwneud ein trigfa gydag ef.

24. Nid yw'r sawl nad yw'n fy ngharu i yn cadw fy ngeiriau i. A'r gair hwn yr ydych chwi yn ei glywed, nid fy ngair i ydyw, ond gair y Tad a'm hanfonodd i.

25. “Yr wyf wedi dweud hyn wrthych tra wyf yn aros gyda chwi.

Ioan 14