9. “Arglwydd,” meddai Simon Pedr wrtho, “nid fy nhraed yn unig, ond golch fy nwylo a'm pen hefyd.”
10. Dywedodd Iesu wrtho, “Y mae'r sawl sydd wedi ymolchi drosto yn lân i gyd, ac nid oes arno angen golchi dim ond ei draed. Ac yr ydych chwi yn lân, ond nid pawb ohonoch.”
11. Oherwydd gwyddai pwy oedd am ei fradychu. Dyna pam y dywedodd, “Nid yw pawb ohonoch yn lân.”
12. Wedi iddo olchi eu traed, ac ymwisgo a chymryd ei le unwaith eto, gofynnodd iddynt, “A ydych yn deall beth yr wyf wedi ei wneud i chwi?
13. Yr ydych chwi'n fy ngalw i yn ‘Athro’ ac yn ‘Arglwydd’, a hynny'n gwbl briodol, oherwydd dyna wyf fi.
14. Os wyf fi, felly, a minnau'n Arglwydd ac yn Athro, wedi golchi eich traed chwi, fe ddylech chwithau hefyd olchi traed eich gilydd.
15. Yr wyf wedi rhoi esiampl i chwi; yr ydych chwithau i wneud fel yr wyf fi wedi ei wneud i chwi.
16. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid yw unrhyw was yn fwy na'i feistr, ac nid yw'r un a anfonir yn fwy na'r un a'i hanfonodd.
17. Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gweithredwch arnynt.
18. Nid wyf yn siarad amdanoch i gyd. Yr wyf fi'n gwybod pwy a ddewisais. Ond y mae'n rhaid i'r Ysgrythur gael ei chyflawni: ‘Y mae'r un sy'n bwyta fy mara i wedi codi ei sawdl yn f'erbyn.’
19. Yr wyf fi'n dweud wrthych yn awr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn ichwi gredu, pan ddigwydd, mai myfi yw.