Ioan 13:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Yr oedd un o'i ddisgyblion, yr un yr oedd Iesu'n ei garu, yn nesaf ato ef wrth y bwrdd.

24. A dyma Simon Pedr yn rhoi arwydd i hwn i holi Iesu am bwy yr oedd yn sôn.

25. A dyma'r disgybl hwnnw yn pwyso'n ôl ar fynwes Iesu ac yn gofyn iddo, “Pwy yw ef, Arglwydd?”

26. Atebodd Iesu, “Yr un y gwlychaf y tamaid yma o fara a'i roi iddo, hwnnw yw ef.” Yna gwlychodd y tamaid a'i roi i Jwdas fab Simon Iscariot.

Ioan 13