Iago 1:26-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Os yw rhywun yn tybio ei fod yn grefyddol, ac yntau'n methu ffrwyno'i dafod, ac yn wir yn twyllo'i galon ei hun, yna ofer yw crefydd hwnnw.

27. Dyma'r grefydd sy'n bur a dilychwin yng ngolwg Duw ein Tad: bod rhywun yn gofalu am yr amddifad a'r gweddwon yn eu cyfyngder, ac yn ei gadw ei hun heb ei ddifwyno gan y byd.

Iago 1