Hosea 7:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. “Y mae Effraim fel colomen,yn ffôl a diddeall;galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria.

12. Fel yr ânt, lledaf fy rhwyd drostynt,a'u dwyn i lawr fel adar yr awyr;fe'u cosbaf fel rhybudd cyhoeddus.

13. Gwae hwy am grwydro oddi wrthyf!Distryw arnynt am wrthryfela yn f'erbyn!Gwaredwn hwy, ond dywedant gelwydd amdanaf.

14. “Ni lefant o ddifrif arnaf, ond dolefant ar eu gwelyau;am ŷd a gwin fe'u hanafant eu hunain, gwrthryfelant yn f'erbyn.

15. Er i mi eu dysgu a nerthu eu breichiau,eto dyfeisiant ddrwg yn f'erbyn.

Hosea 7