Hosea 7:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Pan ddymunaf adfer llwyddiant fy mhobl ac iacháu Israel,datguddir camwedd Effraim a drygioni Samaria,oherwydd y maent yn ymddwyn yn ffals;y mae lleidr yn torri i mewn, ysbeiliwr yn anrheithio ar y stryd.

2. Nid ydynt yn ystyried fy mod yn cofio'u holl ddrygioni;y mae eu gweithredoedd yn gylch o'u cwmpas,y maent yn awr ger fy mron.

3. Y maent yn llawenychu'r brenin â'u drygioni,a'r tywysogion â'u celwyddau.

4. Y mae pawb ohonynt yn odinebwyr fel ffwrn a daniwyd gan bobydd,nad oes angen ei chyffwrdd o dyliniad y toes nes iddo godi.

5. Ar ddydd gŵyl ein brenin clafychodd y tywysogion gan effaith gwin;estynnodd yntau ei law gyda'r gwatwarwyr.

6. Fel ffwrn y mae eu calon yn llosgi gan ddichell;ar hyd y nos bydd eu dicter yn mud losgi;yn y bore bydd yn cynnau fel fflamau tân.

7. Y mae pawb ohonynt yn boeth fel ffwrn, ac ysant eu barnwyr;syrthiodd eu holl frenhinoedd, ac ni eilw yr un ohonynt arnaf.”

8. “Y mae Effraim wedi ymgymysgu â'r cenhedloedd;y mae Effraim fel teisen heb ei throi.

9. Y mae estroniaid yn ysu ei nerth, ac yntau heb wybod;lledodd penwynni drosto, ac yntau heb wybod.

10. Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;eto ni ddychwelant at yr ARGLWYDD eu Duw,ac ni cheisiant ef, er hyn i gyd.

Hosea 7