Hosea 3:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Felly, fe'i prynais am bymtheg darn arian, a homer a hanner o haidd.

3. Dywedais wrthi, “Aros amdanaf am ddyddiau lawer, heb buteinio na'th roi dy hun i neb; felly y gwnaf finnau i ti.”

4. Oherwydd am ddyddiau lawer yr erys plant Israel heb frenin na thywysog, heb offrwm na cholofn, heb effod na theraffim.

5. Wedi hyn, bydd plant Israel yn troi eto i geisio'r ARGLWYDD eu Duw a Dafydd eu brenin, ac yn troi mewn braw yn y dyddiau diwethaf at yr ARGLWYDD ac at ei ddaioni.

Hosea 3